ein gweithgareddau

5.2 gweithgareddau datblygu cynnyrch

5.3 gweithgareddau datblygu hyrwyddiad

5.3.1.1 croeso i blant.

5.3.1.2 gwella gwaith marchnata.

5.3.1.3 cydlynu datblygiad marchnata cronfa ddata

Dim gweithgaredd.  

5.3.1.4 perthynas cwsmer cronfa ddata e-bost

Defnyddio e-cronfeydd-data cyfundrefnau masnach a busnesau annibynnol parod i drosglwyddo newyddlenni misol gyda'n digwyddiadau a'n cynigion. Bydd dilyn canllawiau deddfwriaethol diogelu gwybodaeth yn rhagofyniad i'r fenter hon.

5.3.1.5 datblygu brand marchnata

Bydd PTGC yn hyrwyddo brand Cymru a ddatblygwyd gan Fwrdd Croeso Cymru ar lefelau rhanbarthol ac ardaloedd marchnata, gan gynnwys lledaenu gwybodaeth amdano i'r diwydiant twristiaeth. Bydd PTGC yn pennu asiantaeth i bwysleisio'n gynnil wahaniaethau unigryw'r rhanbarth, a sicrhau cysondeb brand deunydd yr ymgyrchoedd a ariennir ac a ddylanwadir gan PTGC. Bydd PTGC yn parhau i gefnogi'r Ardaloedd Marchnata a'u nodweddion perthynol a ddatblygwyd gan FCC ac yn dal i gryfhau priodoleddau a gwerthoedd Gororau Gogledd Cymru.

5.3.2.1 gwyliau themâu diwylliannol

www.breaksnorthwales.co.uk

Cymysgedd o gydlynu a gwella ymgyrchoedd presennol i werthu gwyliau byrion ar lefel ranbarthol ac ardaloedd marchnata, a hynny i ddenu'n arbennig y farchnad ymwelwyr 45+, segmentau marchnata 1, 2 a 7 yn ôl 5.1.2. Bydd gweithgareddau'n pwysleisio cyfoeth treftadaeth (gerddi, tai a chestyll hanesyddol, mannau crefyddol), gwyliau diwylliannol (digwyddiadau a phrofiadau diwylliannol cofiadwy, iaith Gymraeg), diddordebau natur yr arfordir a chefn gwlad (gwylio adar, rhyfeddodau byd natur). Cyfleoedd i fwynhau gweithgareddau poblogaidd - e.e. cynnwys cerdded, beicio a chwarae golff pan fydd hynny'n bosibl. Cyflwynir argymhellion ymgynghorwyr MPA.

 5.3.2.2 gwyliau gweithgareddau themâu.

Gellir cynnig yn y rhanbarth nifer o wyliau'n seiliedig ar themâu a'r rhain yn cynnwys golff, cerdded, gwyliau antur, chwaraeon dŵr a garddio. Bydd pwyslais ymgyrchoedd hyrwyddo gwyliau byrion ar gynyddu busnes yn nhymhorau gwannaf y flwyddyn a datblygu dulliau i ddenu ymwelwyr yn y cyfnodau ysgafnaf.

5.3.2.3 golff

www.golf-northwales.co.uk

Cydweithio gydag awdurdodau lleol a chlybiau golff Gogledd Cymru i ddatblygu cynnyrch fydd yn apelgar yn y llyfrynnau rhanbarthol, a cheisio llunio atyniad golff cyffredinol i Ogledd Cymru fydd yn hawdd i'w weithredu ac ar gael o 2006 ymlaen. Canolbwyntio ar gefnogi'r cysylltiadau a'r cyrsiau pencampwriaeth fydd yn gallu denu busnes canol tymor a chyfnodau distaw'r flwyddyn pan fydd meysydd golff eraill ar gau oherwydd diffyg draeniad. Hefyd ystyrir datblygu twrnameintiau golff i amaturiaid ar gyrsiau yng Ngogledd Cymru i gyd-fynd â'r cynnyrch a gynigir ledled Gogledd Cymru.

Gweithio gyda chlystyrau golff y rhanbarth a chynyddu'r gefnogaeth i Ddelwedd Newydd, a chael clybiau allweddol i gyflwyno adroddiadau rheolaidd yn y cynhyrchiad Twristiaeth Golff.

5.3.2.4 cerdded

www.walkingnorthwales.co.uk

Cefnogi ymdrechion Bwrdd Croeso Cymru sy'n buddsoddi arian i ddatblygu ymwybyddiaeth o bleserau gwyliau cerdded yng Nghymru. Mae gwyliau cerdded yn hynod boblogaidd gyda cherddwyr o bob oedran ac mae BCC wedi gwario'n sylweddol yn 2005 i dargedu'r gornel bwysig hon o'r farchnad dwristiaeth. Mae PTGC yn barod i roi cefnogaeth ariannol, ac i weithio gyda phartneriaid allweddol Tîm Cymru i ddatblygu'r hyn a gynigir yn barod ac i gydlynu'r digwyddiadau cerdded sy'n digwydd yn flynyddol yng Ngogledd Cymru. 

5.3.2.5 gwyliau antur

www.adventure-northwales.com

Mae PTGC am weithio gyda phartneriaid Tîm Cymru, 'Cinnamon Adventures', arbenigwyr yn y maes hwn sy'n datblygu'n gyflym yn y Deyrnas Unedig. Bydd PTGC yn lansio, yn 2005, lyfryn Gwyliau Antur Gogledd Cymru a gwefan berthnasol, a'u hysbysebu mewn print a thrwy gyfrwng y we fyd-eang. Rhoddir cyfraniad ariannol i FCC i gymryd rhan yn eu hymgyrchoedd gwyliau antur, a chydweithir gyda Cinnamon mewn nifer o arddangosfeydd awyr agored allweddol.

5.3.2.6 beicio

Gweithio gyda'r ymgyrchoedd cenedlaethol sy’n targedu beicio Mynydd, gwyliau beicio, beicio teuluol. Adolygir hefyd y cyfleodd posibl ar gyfer teithiau beicio.

5.3.2.7 pysgota

Gweithio gyda'r ymgyrchoedd pysgota sy'n targedu pysgotwyr y Deyrnas Unedig, cynnig gwyliau pysgota a dyddiau i bysgotwyr, a chynnig arian cyfatebol ar gyfer gwyliau a thoriadau pysgota tramor. Adolygir y farchnad gorfforaethol.

5.3.3.1 cytundeb strategol cysylltiadau cyhoeddus 

Y bwriad fydd hysbysebu'n gyffredinol ar deledu a radio rhanbarthol, cael cyhoeddusrwydd mewn papurau newyddion a chylchgronau Gogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr.   Cynhyrchir deunydd pwrpasol i'w ddosbarthu'n genedlaethol gan Fwrdd Croeso Cymru. Mae PTGC'n bwriadu ceisio tendrau gan asiantaethau i ofalu am gyflwyno nifer isafswm o eitemau am flwyddyn - ac adolygu hynny'n chwarterol ar sail gwerth am arian. Gwneir hyn drwy benodi asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus fydd yn cyflwyno gweithgareddau'n raddol ac yn amserol gywir i'r farchnad dwristiaeth i atgyfnerthu ymgyrchoedd cenedlaethol cyfredol.

5.3.3.2 cysylltiadau cyhoeddus corfforaethol

Mae angen rhoi cyhoeddusrwydd strategol i waith PTGC o fewn twristiaeth - mae cyllideb yn gynwysedig.

5.3.3.3 datblygu cynnyrch diwylliannol

Bydd yr amrediad hwn o weithgareddau yn canolbwyntio ar gefnogi mentrau partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat sy'n hyrwyddo integreiddiad cynnyrch twristiaeth ddiwylliannol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol Diwylliannol Cwmpasog gyda thasgau penodol i ymwneud â Rhwydwaith Digwyddiadau Rhanbarthol, Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008, Marchnata Gwyliau Celfyddyd, Digwyddiadau Chwaraeon Rhanbarthol i Ymwelwyr, a Diddordebau Cyfryngol. 

5.3.3.4 llwybr ffilmiau gogledd cymru

www.moviemapnorthwales.co.uk

Mae Comisiwn Ffilmiau Gogledd Cymru'n bwriadu gosod 30 o blaciau'n ymwneud â’r byd ffilmio yn 2004/05, 2005/06 ac i fanteisio ar hyn byddwn yn cynnal ymgyrch farchnata i dargedu ymweliadau gan ddilynwyr y byd ffilmiau, a gwneir hyn yn bennaf drwy gynnwys mapiau ffilmiau perthnasol mewn cylchgronau ffilm poblogaidd.

5.3.3.5 ymgyrch trefi caerog

www.walledtowns.co.uk 

Trefnir cyd-ymgyrchu gyda Chyngor Dinas Caer, Cadw a 4 awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, ac arian gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, i hybu apêl muriau caerog Caer, Biwmares, Caernarfon, Conwy a Dinbych. Arweinir gan Gyngor Dinas Caer a chyfanswm ariannol o £26,000 i'w ddefnyddio i drefnu ymgyrch mewn print ac ar-lein dros gyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau yn 2005.

5.3.4.1 marchnata busnes a chynadleddau

www.northwalesconferences.co.uk

Y nod fydd gwella gweithgareddau twristiaeth busnes a chynhadledd a dynodi cyfleoedd i fireinio ac ychwanegu gwerth drwy ymestyn ymgyrchoedd presennol i hyrwyddo Cynadleddau Gogledd Cymru, targedu Sefydliadau Cenedlaethol Prydain, Cyfarfodydd Sector Cyhoeddus y DU, Cyfarfodydd Corfforaethol y DU, cyfarfodydd yng Nghymru ei hun, Sefydliadau Rhyngwladol, Datblygu Cyrsiau/Rheolaeth/Hyfforddiant, teithiau arloesol, a thwristiaeth partnerol - partneriaid mewn cynadleddau. Y nod fydd cael yr holl awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn un adnodd cynhadledd rhanbarthol a chyfrannu cefnogaeth ariannol fydd yn gofalu am anghenion busnes a gwestai cynadleddau eu hardaloedd eu hunain. Nodir fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi 'desg' busnes a chynhadledd a byddai o fantais iddynt efallai gael cyfle i weithio gyda Chyngor Dinas Caer a Siambr Fasnach Caer, Gogledd Cymru ac Ellesmere Port.

Gweithio gyda Sefydliad Cylchfannau Cynhadledd Prydain i wella rhaglenni gweithgareddau rhanbarthol a mentrau newydd sectoraidd, i gefnogi rhaglenni llysgennad, ('Ambassador') a hyfforddiant Croeso Gwesteion Busnes ('Business Host Training').

5.3.4.2 masnach deithio

Ariannu gwasanaeth i ymateb i ofynion y fasnach deithio, croesawu newyddiadurwyr a threfnu ymweliadau cyfarwyddo.

5.3.4.3 marchnata teithiau criwiau bws a grŵp.

Y nod fydd gweithredu argymhellion gwaith ymchwil BCC Teithwyr Bysiau a Grwpiau (12/2001).  Ystyrir cefnogi ymgyrchoedd Marchnata Rhanbarthol a chael mwy o ddylanwad mewn sioeau teithio megis WTM a BTTF.

Cefnogi datblygiad môr deithiau yng Nghaergybi a manteisio ar fusnes môr deithiau porthladd Lerpwl.

5.3.5.1 prif farchnadoedd tramor

Cryfhau cysylltiad Gogledd Cymru gyda chymunedau Gogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr, a manteisio ar gyfleoedd newydd i ddatblygu gwasanaethau a theithiau rhad drwy feysydd awyr Lerpwl, Manceinion a Birmingham. Cefnogi newyddiadurwyr a chynrychiolwyr busnesau teithio ddaw i flasu atyniadau Gogledd Cymru, drwy gynhyrchu pecynnau cadarnhaol rhagweithiol - ar themâu pynciol, amserol neu unigryw - i'w dosbarthu gan Fwrdd Croeso Cymru drwy'r cyfryngau rhyngwladol. 

5.3.5.2 cyfraniadau i'r cynllun 'tramor'

Cyfrannu i elfen gyfredol Gogledd Cymru o fenter farchnata ryngwladol 'Tramor', a gofalu cadw nodweddion unigryw  hunaniaeth Gogledd Cymru. Rhoddir cefnogaeth ariannol i gynhyrchu CD uchel ei safon mewn 4 iaith gyda'r cynyrchiadau sy'n diwallu anghenion prif farchnadoedd Ewrop.

5.3.6.1 marchnadoedd ymwelwyr dydd - arddangosfeydd a sioeau

Cael cynllun rhanbarthol a rhaglen arddangos i Ogledd Cymru, fydd yn darparu ar gyfer marchnadoedd targed ac yn gwneud cyfraniad ariannol i ffeiriau teithiol Gogledd Orllewin a Chanolbarth Gorllewinol Lloegr, ac allfeydd hyrwyddo manwerthu. Bwriedir gweithio gyda Chonsortia Atyniadau a phrif atyniadau i ymdrechu i gael mwy o aelodau mewn ffeiriau teithiol e.e. Great Days Out, G-Mex, ac allfeydd manwerthu, archfarchnadoedd, canolfannau siopa megis Cheshire Oaks a Chanolfan Trafford.  Ymdrechir i gydweithio gydag arddangoswyr presennol i'w cael yn fwy effeithiol.  Mae cyfleoedd yn bodoli'n barod i weithio'n rhyngbarthol dwristaidd gyda Chanolbarth Cymru.

5.3.6.2 marchnadoedd ymwelwyr dydd - cell ddosbarthu dogfennau yng ngogledd orllewin lloegr

www.attractionsnorthwales.co.uk

Adolygu cyfraniad cell ddosbarthu taflenni atyniadau consortia Gogledd Cymru yng Ngogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr, ac archwilio modelau newydd i ddenu marchnad ymwelwyr dydd i'r rhanbarth - yn enwedig archwilio cynllun ymwelwyr teyrngar. Cyfeirio'n arbennig at Atyniadau Ynys Môn, Eryri, Deg Prif Atyniad, Atyniadau Llandudno, Canolfannau Hwyl Y Rhyl a Phrestatyn, Atyniadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, efallai cynnwys CADW ac atyniadau eraill a allai fod â diddordeb mewn manteisio ar gyfleoedd newydd.

5.3.7.1 ymestyn rhaglen gwyliau byrion, 5.3.7.2 datblygu cynigion gweithgareddau, 5.3.7.3 datblygu pecyn diwylliannol

Sefydlu perthynas newydd gyda phawb yng Ngogledd Cymru sy'n darparu lletyaeth ac atyniadau fydd yn meithrin marchnadoedd newydd, cynyddu e-fusnes a manteisio ar sianelu dosbarthu ehangach.  Fel mae'r farchnad wyliau bresennol yng Ngogledd Cymru yn crebachu o faes y gwyliau hirion i wyliau byrrach, rhaid troi i gyfeiriad anghenion newydd cwsmeriaid os am gystadlu'n llwyddiannus yn erbyn cystadleuaeth gynyddol gwledydd tramor a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

5.3.7.4 gwella hwylustod sicrhau lletyaeth

Bwriedir parhau i gynnal cyfleustra hurio canolog sy'n cynnig system hysbysebu a sicrhau lletyaeth ardderchog i'n cwsmeriaid.

5.3.7.5 cynlluniau partneriaeth ardaloedd marchnata / ardaloedd cynnydd twristiaeth

www.islandofchoice.com/tourism.asp

www.visitsnowdonia.info

www.borderlands.co.uk

www.visitconwy.org.uk

www.rhyl-prestatyn.co.uk

Gwahodd ceisiadau oddi wrth Bartneriaethau Ardaloedd Marchnata am gefnogaeth i brosiectau sy'n hybu prosiectau Cynlluniau Gweithredu lleol ac yn cydymffurfio â Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru. Mae'r arian hwn hefyd ar gyfer cefnogi mentrau ceisiadau gan Ardaloedd Cynnydd Twristiaeth. Bydd y gyllideb yn hyrwyddo mentrau twristiaeth fel y rhai a gyflawnir gan grwpiau Leader Plus. Bydd y ceisiadau'n cadw at ddyddiadau cau pendant, ac yn gorfod dangos eu heffaith ar gynnydd Refeniw Twristiaeth. Rhaid bodloni meini prawf Gwerthusiad a Monitro ymchwiliol. 

5.3.8.1 canolfan gyswllt ganolog i ganolfannau croeso

Gwahoddir ceisiadau i sefydlu pwynt cyswllt ffôn i ganolfannau croeso yn y rhanbarth, ar batrwm gwasanaethu ardaloedd marchnata rhanbarthol

5.3.8.2 cefnogaeth i gnewyllyn cadarn o ganolfannau croeso

Adolygu'r ddarpariaeth ariannol i'r Canolfannau Croeso Prysuraf (TIC’s) Llanfairpwll, Caernarfon, Porthmadog, Llandudno, Rhyl a Llangollen, gan ofalu gwella'r cyfleusterau mewn nifer o'r lleoliadau hyn. Bydd y gefnogaeth ariannol yn ddibynnol ar gynnal yr un oriau gwasanaeth, oriau agor y canolfannau'n ddyddiol, a'r dyddiau ar agor yn y tymor gwyliau a thrwy'r flwyddyn, a chydymffurfio gyda gofynion Siarter Rhwydwaith Canolfannau Croeso. Dichon y cyflwynir meini prawf ychwanegol o ganlyniad i'r adolygiad.

Galluogi /cydlynu arddangosfeydd Ardal Farchnata bob chwarter ar gyfleoedd toriad byr / digwyddiad.

Cefnogi cyfleoedd i staff Canolfannau Croeso i ymweld ag atyniadau eraill i gryfhau eu gwybodaeth o'r cynnyrch twristaidd er mwyn cyfoethogi eu gwasanaeth i ymwelwyr.

5.3.8.3, 5.3.8.4

Dim gweithgaredd

5.3.8.5 cynlluniau partneriaeth ardal farchnata 2004/05

Cario Ymrwymiad yn ei Flaen

5.3.9 gweithgaredd datblygu pobl

Mabwysiadir egwyddor datblygu adnoddau dynol, h.y. hwyluso gwaith recriwtio, cadw staff, a gwella sgiliau a neilltuo adnoddau i brif feysydd blaenoriaeth y cynllun busnes a arweinir gan aelodau'r Panel Datblygu Pobl, sydd i gyfarfod 3 gwaith y flwyddyn.

5.3.9.1 mentrau ar y cyd gydag adran addysg a dysgu gydol oes llywodraeth cynulliad cymru a fforwm hyfforddiant twristiaeth cymru.

Bydd PTGC a Fforwm Hyfforddiant Twristiaeth yng Nghymru (TTFW) yn ariannu penodiad Rheolwr Datblygu Pobl i wasanaethu'r Panel uchod. Mae ymrwymiad hefyd i gyflawni Thema 3 “Sgiliau a Dysgu” Strategaeth Ddatblygu Newydd NWEF.

5.3.9.2 hyfforddiant mewn hyblygrwydd, polisi prisio tactegol yn y diwydiant twristiaeth.

5.3.9.3 arian i ddatblygu cynlluniau meincnodi ar gyfer sectorau gwahanol y diwydiant twristiaeth.

5.3.9.4 modiwlau e-hyfforddiant i fusnesau twristiaeth.

5.3.9.5 mentrau rhwydwaith i dwristiaeth, gan gynnwys gweithio gyda 'croeso cymru'

5.3.10 gwerthuso a monitro

5.3.10.1 ariannu partneriaeth s.t.e.a.m.

Cyfrannu arian i gefnogi model CBS Wrecsam o gynllun Rhanbarthol STEAM Gogledd Cymru gan ofalu hefyd bod gwell lledaeniad o ganlyniadau Ardal farchnata STEAM i fusnesau cyfranogol. Gweithio tuag at gael un cytundeb STEAM cenedlaethol ar gyfer 2007/08.

5.3.10.2 cytundebau gwerthuso pwrpasol

Gwerthuso cyfanswm canlyniadau a chynnyrch y Cynllun Gweithredu Rhanbarthol.

5.3.10.3 strategaeth twristiaeth gogledd cymru

Dilyn cynnydd Cynlluniau Gweithredu Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru - mae'r Panel Strategaeth yn adolygu'r datblygiad ddwywaith y flwyddyn. 

Mae'r strategaeth yn dair oed; datblygwyd Cynllun Gofodol Llywodraeth Cynulliad Cymru fel yr unig gynllun i'w gefnogi; oherwydd hyn, petruswyd rhag gweithredu cynllun strategaeth fforwm NWEF - a dylid cael yn awr Adolygiad Strategaeth Cyfamserol. Gallai'r Adolygiad gychwyn trafodaeth ddyfnach ar gydweithrediad rhyngranbarthol ac isranbarthol. Byddai'n gyfle hefyd i ganolbwyntio ar lai o flaenoriaethau dros y 2 -3 blynedd nesaf.

5.3.10.4 arolygiadau anghenion cwsmeriaid

Cyfrannu tuag at arolygiadau gwahanol ofynion cwsmeriaid mewn meysydd/gweithgareddau a diddordebau gwahanol.  Y cynnig fydd cefnogi gwaith ymchwil i'w gydlynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wrth archwilio anghenion cwsmeriaid holl feysydd eu marchnad hwy. Bydd yr adborth yn wers bwysig ac yn gylch dysgu defnyddiol wrth iddynt fwydo'r wybodaeth a chanfyddiadau i'r diwydiant twristiaeth er mwyn gallu parhau i wella'r cynnyrch a gynigir i gwsmeriaid, a rhagori ar eu disgwyliadau.

5.3.11 costau gweinyddu

Cedwir costau gweinyddol o fewn 20% o ddyraniad Cronfa Datblygiad Rhanbarthol Blynyddol Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru.

5.3.11.1 costau staff

Mae costau staff yn cynnwys penodi Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol, Rheolwr Datblygu Partneriaeth, Gweithredwr Partneriaeth: Marchnata a Digwyddiadau, Ysgrifennydd Partneriaeth a Gweinyddwr Partneriaeth. Mae costau staff yn cynnwys hefyd penodi a thalu costau Cynorthwyydd Gweinyddol S4 ar gyfer  Bwrdd Croeso Cymru. Mae'r gyllideb yn clustnodi cydnabyddiaeth o £2000 y flwyddyn i’r Cadeirydd, a £250 ŷf i Gyfarwyddwyr Masnach i'w dalu'n flynyddol ym mis Mawrth.

5.3.11.2 costau gwaith/swyddfeydd

Mae costau'n cynnwys rhent am swyddfa 150m sgwâr yn 25 Parc Busnes Llanelwy, ac ad-daliad  BCC am ofod i Uwch Ddadansoddydd Buddsoddiadau S4 a Chynorthwyydd Gweinyddol S4. Efallai y gwneir newidiadau cyllidol ynglŷn â'r olaf wedi'r cyfuno a fydd yn effeithio ar ein hincwm.

5.3.11.3 costau gweithredu

Costau gweithredu'n cynnwys anghenion cefnogi staff ac addasu swyddfeydd.

5.2.12 ardaloedd tyfiant twristiaeth

Ardal Datblygu Twristiaeth Wrecsam – del.roberts-jones@wrexham.gov.uk

ADT Caernarfon  – aledprysdavies@gwynedd.gov.uk

Llandudno / Deganwy / ADT Conwy – janet.johnson@conwy.gov.uk

ADT Betws Y Coed  – anwen.davies@conwy.gov.uk

Llangollen / Dyffryn y Ddyfrdwy – carolyn.brindle@sirddinbych.gov.uk

Bydd PTGC'n rhwymedig i gyflawni ei rôl, ym mhum Ardal Datblygu Twristiaeth ein rhanbarth sef - ADT Strategol Llandudno, Conwy a Deganwy; ADT Rhanbarthol Wrecsam; ADT Rhanbarthol Llangollen, a Dyffryn y Ddyfrdwy; ADT Rhanbarthol Caernarfon; ac ADT Gwledig Betws-y-coed. Bydd hyn yn golygu mynychu cyfarfodydd ADT, cydlynu gwaith swyddogion prosiect a threfnu cyfarfodydd chwarterol i swyddogion prosiect i rannu arfer dda a chyflwyno adroddiadau chwarterol i Fwrdd Croeso Cymru. Manteisir ar gyfleoedd i integreiddio gweithgareddau Ardaloedd Datblygu Twristiaeth gyda'r hyn sy'n digwydd â phrosiectau megis Mentrau Trefi Bychain a Phentrefi Awdurdod Datblygu Cymru neu Leader Plus, er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau PTGC. Cynhwysir Ardaloedd Datblygu Twristiaeth Strategol, Ranbarthol a Gwledig ym mhob ymgyrch ranbarthol ac ardal farchnata, a gallant i gyd geisio am gefnogaeth ariannol o fewn gweithgareddau 'Activity Line' 5.3.7.5.

Rhagwelir y bydd BCC yn adolygu gwaith Ardaloedd Datblygu Twristiaeth yn 2006/07, i gadw cyfrif o'r arian sydd ganddynt. Rhagdybir yn ôl arwyddion y bydd cyllideb BCC ar gyfer prosiectau ADT yn dirwyn i ben, ac fe ddarperir arian drwy gynllun ariannu creiddiol PTGC i'w cefnogi, ond ar raddfa lai na'r presennol.

Mae Datblygu Rheolaeth Ansawdd Integredig yn nod allweddol i bob Ardal Datblygu Twristiaeth. Gwnaeth ADT Wrecsam waith peilot cynorthwyol ar ffurf Pecyn Canllawiau Defnyddiol sef IQM ‘Toolkit’ i ardaloedd eraill. Daw rheoli ansawdd yn flaenoriaeth ym mhob ADT ar derfyn 4 mlynedd o waith datblygu. Y weledigaeth eang yw rheoli ansawdd ledu dros lwyfan lletach nag Ardaloedd Datblygu Twristiaeth yn unig, a hynny ar draws y rhanbarth i gyd. 

5.3.13 cynllun mentora digwyddiadau

5.3.14 cynllun cefnogi digwyddiadau rhanbarthol

www.eventsnorthwales.co.uk

Bydd y Cynllun Cefnogi Digwyddiadau Rhanbarthol yn cynnig cymorth ariannol i gynlluniau rhanbarthol y tu allan i faes Cymorth Grantiau Ariannol Dilysnod a Digwyddiadau Cenedlaethol o dan gynllun Strategaeth Digwyddiadau Bwrdd Croeso Cymru a'i gyllideb o £500k. Y prif feini prawf fydd cefnogi digwyddiadau sy'n fanteisiol i'r rhanbarth, ac yn ymestyn y tymor gwyliau a'r galw am lefydd i aros.  Cefnogir ceisiadau i gynorthwyo cynnal digwyddiadau presennol, neu ymdrechion newydd allan o'r tymor gwyliau arferol fydd yn creu galw am letyaeth. Ni chefnogir digwyddiadau o natur leol fydd yn apelio i drigolion lleol yn unig a heb unrhyw apêl i farchnad oddi allan i'r ardal leol. Bydd y cyllid yn £50k a'r ceisiadau i'w trin fel y cant eu derbyn. Rhoddir i bob digwyddiad gefnogaeth rhwng £5k a £10k a chefnogir rhwng 5 a 10 digwyddiad bob blwyddyn. Clustnodir £15k i Gomisiwn Digwyddiadau Gogledd Cymru, fel cyfraniad PTGC gyda 4 awdurdod lleol ac ADC.

Mae angen trefnu gwell adolygiad o anghenion cwsmeriaid a gwerthuso canlyniadau digwyddiadau, a gweithio gydag eraill i gyflawni hynny.

Rhaid archwilio'r posibilrwydd o fwy o gyd-farchnata digwyddiadau - naill ai mewn clystyrau neu trwy gychwyn consortia digwyddiadau - a  gwneud hynny'n annibynnol neu gydweithio gyda chonsortia atyniadau.

Adolygu a gwella effeithiolrwydd y wefan ddigwyddiadau rhanbarthol.

Cefnogi ymdrechion grwpiau gwaith astudiaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru/Strategaeth Digwyddiadau'r Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg.

5.3.15 cynllun dosbarthu llyfrynnau ardaloedd marchnata

Mae hwn i dalu costau dosbarthu llyfryddiaeth ardaloedd marchnata prif ymgyrchoedd a gwaith cydlynol perthynol Bwrdd Croeso Cymru ar gyfer Ynys Môn, Eryri Môr a Mynydd, Ardal Llandudno a Bae Colwyn, Rhyl a Phrestatyn, a Gororau Gogledd Cymru. Mae BCC yn adolygu'r arian ar gyfer 2006/07, a dylid gwneud hynny yng nghyd-destun 5.3.17 isod. Mae Ardal Farchnata Eryri Môr a Mynydd yn cynnwys dau ranbarth,  2/3 yng Ngogledd Cymru a 1/3 yng Nghanolbarth Cymru, ac felly tynnir 1/3 yn erbyn costau elfen dwristiaeth Canolbarth Cymru.

5.3.16 cais am arian Amcan 1 comisiwn digwyddiadau

www.eventscommission.com

Bydd PTGC yn parhau'n Hwylusydd Ceisiadau a Rheolwr Cyllid. Bydd PTGC yn atebol i Swyddfa Arian Ewrop Cymru 'WEFO', a Chyngor Gwynedd yn bartner beirniadol i sicrhau fod y prosiect yn datblygu'n foddhaol. Dan y cynigion uchod ni fyddai Gwynedd yn ariannu, ond yn gofalu am Reoli a Hwyluso trefniadau cyflogres, rheoli a cheisio grantiau ariannol drwy Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru.

5.3.17 cynllun peilot rhanbarthol rheoli perthynas â chwsmeriaid

www.info4-u.com 

Cyfrannu i ddatblygiad ymgyrch rheolaeth perthynas cwsmer Cymru gyfan yn seiliedig ar waith peilot a wnaed yng Ngogledd Cymru yn ystod 2005/06. Cynigir yma gyllideb dros dro - yn amodol ar dderbyn manylion mwy manwl a'i integreiddio gyda 5.3.15 uchod.