yn ôl

bwrdd cyfarwyddwyr

penodiad y bwrdd cyfarwyddwyr

Mae'r gosodiadau ar gyfer penodiad parhaus cyfarwyddwyr i Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru wedi eu cynnwys yn y Memorandwm a'r Erthyglau Cwmni. Bydd yr aelodau a etholir yn parhau yn gyfarwyddwyr hyd nes y caiff pleidlais bost ei chynnal yn unol â'r weithdrefn isod.

  1. Bydd y Cyfarwyddwyr Masnach Gyffredinol (3) a'r Cyfarwyddwyr Masnach Ardal Farchnata (4) yn cael eu penodi yn dilyn pleidlais bost ymysg y gymuned twristiaeth a gynhelir ar lefel ranbarthol.

    Bydd pob un o'r Cyfarwyddwyr Ardal Farchnata (4) yn hanu o un o'r pedair Ardal Farchnata o fewn rhanbarth Gogledd Cymru. Y pedair Ardal Farchnata yw Eryri - Môr a Mynydd, Ynys Môn, Trefi Glan Môr Gogledd Cymru, a Gororau Gogledd Cymru. Bydd ffin y pedair Ardal Farchnata yn cael ei ddiffinio gan y Bwrdd Cyfarwyddwyr, a ni chaiff ymgeiswyr ond gynrychioli'r Ardaloedd Marchnata lle mae ei busnesau wedi eu lleoli a/neu eu cofrestru.
  2. Bydd etholwyr y gymuned twristiaeth yn cael eu cynrychioli gan gyfranogwyr yn y Cyfundrefnau Twristiaeth a busnesau oddi mewn i Fwrdd Croeso Cymru, yr AA, cynlluniau archwilio graddio'r RAC, a busnesau twristiaeth a chysylltiedig sy'n datgan diddordeb yn dilyn cyhoeddiad cyhoeddus yn y wasg. 
  3. Bydd pob cyfundrefn gyfranogol ag un bleidlais. Bydd pob un yn nodi pleidlais ar gyfer hyd at 7 ymgeisydd ar y ffurflen bleidlais bost.
  4. Bydd penodiad y Cyfarwyddwyr Masnach Gyffredinol am gyfnod fydd yn dod i ben yn ystod y trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol cyntaf y Bartneriaeth.
  5. Bydd y Cyfarwyddwyr Ardal Farchnata yn cael eu penodi am gyfnod fydd yn dod i ben yn ystod y trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol cyntaf y Bartneriaeth.
  6. Yr ymgeiswyr hynny sy'n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau o bob un o'r pedair Ardal Farchnata, fydd yn cael eu penodi'n Gyfarwyddwr Masnach Ardal Farchnata.
  7. Y tri ymgeisydd hynny sy'n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau wedi'r uchod ond sydd heb eu penodi fydd yn cael eu penodi'n Gyfarwyddwyr Masnach Gyffredinol.
  8. Bydd y Cyfarwyddwyr Masnach Ardal Farchnata â chynghorwyr eiledol fydd yn mynychu cyfarfodydd yn eu habsenoldeb. Y pedwar ymgeisydd hynny sy'n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau wedi'r uchod o bob un o'r Ardaloedd Marchnata fydd yn cael eu penodi'n gynghorwyr eiledol.
  9. Gall y Cyfarwyddwyr benodi Cyfarwyddwr i lenwi swydd wag am gyfnod fydd yn dod i ben yn ystod y trydydd Cyfarfod Cyffredinol.
  10. Y Cyfarwyddwyr Awdurdod Lleol fydd y prif ddewisddynion a gadarnheir yn ysgrifennedig gan y saith Awdurdod Lleol - Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
  11. Bydd y Cyfarwyddwyr Awdurdod Lleol â chynghorwyr eiledol fydd yn mynychu cyfarfodydd yn eu habsenoldeb. Mae enwau'r dewisddynion i'w cadarnhau yn ysgrifennedig gan y saith awdurdod lleol.
  12. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol dechreuol yn cynnwys Aelodau'r Bartneriaeth yn unig. Bydd y Bartneriaeth yn cael ei ymgorffori fel Cwmni sydd wedi ei gyfyngu gan warant. Bydd yr aelodau yn cynnwys:
  • 3 Cyfarwyddwr Masnach Gyffredinol
  • 7 Cyfarwyddwr Awdurdod Lleol
  • 4 Cyfarwyddwr Masnach Ardal Farchnata
  • 1 Cyfarwyddwr Gweithredol
  • 15 felly fydd nifer aelodau'r cwmni.

Y Cyfarwyddwr Gweithredol cyntaf fydd Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol penodedig Bwrdd Croeso Cymru.

Ni fydd y Cyfarwyddwr Ariannol/Ysgrifennydd y Cwmni yn aelod o'r cwmni.

Cyfanswm nifer y cyfarwyddwyr fydd 16; cyfanswm nifer y swyddogion eiledol fydd 14.

photo / llun: Pete Bursnall; Marketing Area Director Snowdonia Mountains & Coast