yn ôl

bwrdd cyfarwyddwyr

cod ymddygiad ar ddatgan croestyniadau a chofrestr diddordebau

   1. Mae'n hanfodol fod gweithdrefnau'r Bwrdd Cyfarwyddwyr, Is-grwpiau a'r Panel Buddsoddiad Prosiect yn hollol dryloyw a bod pob aelod yn glynnu at y safonau proffesiynol a chywirdeb uchaf.

   2. Dylai cyfarfodydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr a'r Panel Buddsoddiad Prosiect gael eu cynnal mewn dull cywir a theg.

   3. Os oes gan unrhyw aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr, Is-grwp neu Banel Buddsoddiad Prosiect ddiddordeb mewn eitem agenda neu brosiect, yna mae'n rhaid iddynt ddatgan y diddordeb hwnnw.

   4. Rhaid i aelod ddatgan diddordeb yn ystod y cyfarfod cyn gynted â phosib wedi i'r cyfarfod gychwyn. Yn ymarferol ac yn ddelfrydol dylai hyn fod pan fo'r eitem agenda berthnasol ar fin cael ei thrafod. Rhaid i'r aelod ddatgelu'r diddordeb yn llafar.

   5. Gall diddordeb fodoli lle bo cais am arian yn:

          * Ariannol: budd ariannol uniongyrchol, naill ai trwy gyflogaeth, swydd cyfarwyddwr, gwerthiant tai, a.y.b.

          * Anariannol: budd anuniongyrchol i gyfundrefn yr ydych yn aelod gweithredol, gyfranogwr, neu'n ymddiriedolwr ohoni

          * Personol: budd ariannol uniongyrchol i gyfaill agos, bartner neu berthynas

   6. Lle bo diddordeb ariannol, rhaid i Aelod Bwrdd y Cyfarwyddwyr, Is-grwp a Phanel Buddsoddiad Prosiect adael yr ystafell.

   7. Lle bo diddordeb anariannol neu bersonol, gellir gofyn i'r aelodau sydd wedi datgan diddordeb o'r fath drafod y mater yn ystod yr eitem agenda, gan y gallant fod â gwybodaeth berthnasol a all fod o gymorth i Fwrdd y Cyfarwyddwyr, Is-grwpiau neu'r Panel Buddsoddiad Prosiect. Pa fodd bynnag, ni ddylent bleidleisio na chwarae unrhyw ran yn y broses benderfynu ynglyn â'r mater dan sylw.

 

      Yn y sefyllfaoedd hyn gellir gofyn i aelodau, os yw'r Cadeirydd yn dymuno hynny, egluro materion/ffeithiau a gadael yr ystafell.

 

      Ar rai achosion efallai y bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, Is-grwpiau a'r Panel Buddsoddiad Prosiect o'r farn ei bod hi'n addas i'r rhai hynny sydd wedi datgan diddordeb anariannol neu bersonol i adael yr ystafell tra bod y mater yn cael ei drafod, er mwyn dangos yn gyhoeddus nad yw'r unigolion hynny wedi dylanwadu ar y penderfyniad.

   8. Os yw unrhyw aelod o'r bartneriaeth wedi ei gyflogi neu yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd arall gyda'r cyfundrefnau sy'n ymgeisio, hyd yn oed os nad ydynt yn cynrychioli'r gyfundrefn honno yn y bartneriaeth, rhaid iddynt ddatgan diddordeb a gadael yr ystafell cyn trafodaeth y prosiect hwnnw neu unrhyw brosiect cysylltiedig arall.

   9. Bydd pob datganiad diddordeb ac ymadawiad a mynediad aelodau mewn perthynas â datganiad diddordeb yn cael ei gofnodi.

  10. Ni fydd aelodau'r Panel Buddsoddiad Partneriaeth yn datgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol ynglyn â'r dadansoddiad buddsoddiad prosiect yn ei gyfanrwydd, yn unol â unrhyw god ymarfer ychwanegol a gyhoeddir gan Fwrdd Croeso Cymru ynglyn â'r mater hwn.

  11. Bydd aelodau yn cyflwyno datganiadau ysgrifennedig o'u diddordebau yn flynyddol, ac mae'r rhain i'w cofnodi ar ffurf cofrestr. Gweler Atodiad I – Cofrestr Diddordebau.

 

Diffiniadau

Diddordeb Uniongyrchol

 

Ni ddiffynir diddordeb uniongyrchol mewn termau diamod. Mae diddordeb uniongyrchol yn bodoli lle bo aelod wedi chwarae rhan uniongyrchol yn nyluniad, datblygiad neu weithrediad prosiect, neu wedi bod â/yn dal â diddordeb ariannol yn llwyddiant y prosiect dan sylw. Bydd aelod sydd â chyfrifoldeb goruchwyliol uniongyrchol neu gyfrifoldeb rheolaeth llinell dros weithiwr sydd ynghlwm yn un o'r ffyrdd uchod â phrosiect hefyd yn cael ei ystyried fel unigolyn â diddordeb uniongyrchol.

Diddordeb Anuniongyrchol

 

Mae diddordeb anuniongyrchol yn bodoli lle bod aelod yn weithiwr cyflogedig o gyfundrefn, gwmni neu gorff arall, sydd â diddordeb uniongyrchol (mae aelodaeth o gwmni yn cynnwys bod â chyfranddaliadau yn y cwmni hwnnw).

 

16 Ebrill 2002

photo / llun: Pete Bursnall; Marketing Area Director Snowdonia Mountains & Coast