partneriaethau ardal farchnata
Polisi PTGC fydd cydweithio gyda'r 18 Cymdeithas Twristiaeth, 5 Grwˆp Sector, a 4 Chonsortiwm yn y rhanbarth, wedi eu clystyru, yn gyd-derfynol â'r Ardaloedd Marchnata yn y rhanbarth, er mwyn datblygu 5 Partneriaeth Ardal Marchnata.
- Ynys Môn
- Eryri Môr a Mynydd
- Trefi Glan Môr Gogledd Cymru - Gorllewin (Llandudno/Bae Colwyn)
- Trefi Glan Môr Gogledd Cymru - Dwyrain (Y Rhyl/Prestatyn)
- Gororau Gogledd Cymru.
Bydd y 5 Partneriaeth Ardal Marchnata yn mabwysiadu'r Strategaeth Ardal Marchnata Twristiaeth - Strtegaeth Twristiaeth Gogledd Cymru 2010/15 fel patrymlun, gyda hyn i arwain at ddatblygiad Cynllun Busnes Ardal Marchnata, i'w flaenu gan Dîm Trosglwyddo Twristiaeth yr Ardal. Er mwyn glynu Partneriaethau Ardal Marchnata at ei gilydd bydd PTGC yn cynnig cymorth gweinyddol/cydlyniad. Ni chaiff Cymdeithasau Twristiaeth unigol eu cefnogi. Bwriedir cydnabod natur unigryw pob cymdeithas ond sicrhau'r canlynol trwy'r Partneriaethau Ardal Marchnata:
- Cynhwysedd - Pob busnes bona fide, awdurdod lleol ac asiantaeth berthnasol arall i gyfranogi.
- Gwell rhyng-gysylltiad, a meithrin perthnasau da rhwng cymdeithasau, diddordebau sector preifat a chyhoeddus, er mwyn gweithio ar nodau cyffredin.
- Rhannu gwybodaeth/profiadau a gwella sgiliau'r cynrychiolwyr.
- Enwebu cynghorwyr i Fwrdd y Cyfarwyddwyr PTGC.
- Bydd Cais Blynyddol yn cael ei gyflwyno am gyllid o oddeutu £30k ar gyfer pob Partneriaeth Ardal Marchnata erbyn 31 Rhagfyr mewn fformat Cynllun Busnes.
- Bydd Adroddiad Gwerthusiad a Monitro yn cael ei ddarparu o fewn 6 wythnos i orffen y gwaith a ariannwyd.

