yn ôl

rhwydwaith cyfundrefnau twristiaeth

network of tourist organisations tree diagram

Acronymau Saesneg

BHA
Cymdeithas Lletygarwch Brydeinig
BHHPA
Cymdeithas Cartrefi a Pharciau Gwyliau Prydeinig
CCW
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
DMS
System Rheolaeth Cyrchfan
DE&T
Adran Economi a Thrafnidiaeth
DH
Adran Treftadaeth
ESF
Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd
LA
Awdurdod Lleol
MWT
Twristiaeth Canolbarth Cymru
NWEF
Fforwm Economaidd Gogledd Cymru
NWT
Twristiaeth Gogledd Cymru
RTC
Cwmni Twristiaeth Rhanbarthol
RTP
Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol
TA
Cymdeithas Twristiaeth
TIC/P
Canolfan Wybodaeth/Man Gwybodaeth Twristiaeth
TPNW
Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru
VW
Croeso Cymru
VB
Visit Britain
WAG
Llywodraeth Cynulliad Cymru
WASCO
Cymdeithas Gweithredwyr Hunan-Ddarpar Cymru
WAVA
Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru
WEFO
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
WOTGA
Cymdeithas Arweinwyr Twristiaeth Swyddogol Cymru
WTA
Cynghrair Twristiaeth Cymru

cyfundrefnau twristiaeth

Activity Wales Cyf

2 Riverside Quay, Hwlffordd, Sir Benfro SAS61 2LJ Tel: 01437 766888 www.activitywales.com

Mae Activity Wales yn cydweithio gyda CC ac yn ceisio hyrwyddo canolfannau gweithgaredd achrededig a gymeradwywyd gan CC a'r Awdurdod Trwyddedu Gweithgaredd Antur. Yn eu cyhoeddiad Activity Wales gall busnesau hysbysebu eu twristiaeth gweithgaredd

Adventure Activity Licensing Authority

17 Lambourne Crescent, Llanishen, Caerdydd CF14 5GF Tel: 029 2075 5715 www.aala.org.uk

Mae AALA yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am archwilio a thrwyddedu cyfundrefnau sy'n cynnig gweithgareddau antur i bobl ifanc dan 18 oed.

ARENA Network

Bank Buildings, Main Avenue, Trefforest Estate, Pontypridd CF37 5UR Tel: 01443 844001 www.arenanetwork.org

Mae ARENA Network yn darparu cefnogaeth ymarferol i gyfundrefnau o bob maint gyda gweithredu systemau rheolaeth amgylcheddol a mabwysiadu ymarfer gorau amgylcheddol. Mae'n gyfundrefn dan reolaeth annibynnol sy'n gweithredu ar hyd a lled Cymru ar sail ddi-elw, gydag arian gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. ARENA yw'r prif gorff arweiniol enwebedig sydd ynghlwm â throsglwyddiad y Cynllun Gweithredu Busnes ac Amgylcheddol ar gyfer Cymru.

Cyngor Celfyddydau ar gyfer Cymru (ACW)

9 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3NX Tel: 029 2037 6500 www.ccc-acw.org.uk

Mae CCC yn cael ei ariannu gan LlCC ac yn gyfrifol am ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Mae CCC hefyd yn dosbarthu arian Loteri i'r celfyddydau yng Nghymru. Mae'n cydweithio gyda chymdeithasau proffesiynol, cymunedol a chelfyddydau gwirfoddol, awdurdodau lleol a chyfundrefnau eraill.

British Holiday and Homes Park Assoc

Chichester House, 6 Pullman Court, Great Western Road, Caerloyw GL13ND Tel: 01452 526911 www.ukparks.com

Y BHHPA yw corff cydnabyddedig cenedlaethol y diwydiant parciau. Mae'n darparu gwybodaeth newydd a chyngor trwy gyfrwng cyhoeddiadau a gwasanaeth cynghori ffôn, gwasanaethau marchnata, ymgyrchoedd perthnasau cyhoeddus, gwasanaethau pwrcasu canolog a rhwydwaith cangen leol.

British Hospitality Association

Queen’s House, 55-56 Lincoln’s Inn Fields, Llundain WC2A 3BH Tel: 020 7404 0601 www.bha-online.org.uk

Mae'r BHA yn siarad ag yn trafod ar ran aelodau yn y diwydiant gwesty ac arlwyo gyda'r llywodraeth a chyfundrefnau eraill, ynghyd â darparu ystod eang o wasanaethau i aelodau.

CADW

Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgaw, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ.  01443 336000 www.cadw.wales.gov.uk

Mae CADW yn gyfrifol am warchod, cadw a hyrwyddo gwerthfawrogiad y dreftadaeth adeiledig yng Nghymru. Mae'n cyflawni gwaith cadwraeth ac yn gweinyddu llawer o gofadeiladau hynafol ac adeiladau hanesyddol. Mae CADW hefyd yn darparu grantiau ar gyfer dibenion penodol i berchnogion adeiladau hanesyddol a threftadol.

Conffederasiwn Diwydiant Prydeinig

(CBI) Cymru Llawr Gwaelod Uned 3 Rhodfa Columbus, Maes Brigantine, Caerdydd CF10 4WW Tel: 029 2045 3710 www.cbi.org.uk

Mae'r CBI yn cynrychioli cwmnïau o bob sector yn yr economi. Mae'n ffynhonnell ar gyfer gwybodaeth arbenigol a chyngor ar ystod eang o bynciau busnes, yn fforwm ar gyfer cynhyrchu syniadau a chyfnewid ymarfer gorau, ac yn darparu cyfleoedd rhwydweithio lefel uchel.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC)

Maes Y Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor LL57 2DN Tel: 01248 385500 www.ccw.gov.uk

Mae CCGC yn gynghorydd statudol i LlCC a rhannau eraill o'r llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol a bywyd gwyllt, a hyrwyddo cyfleoedd hamdden awyr agored yng Nghymru. Mae'n rheoli Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a hefyd yn awdurdod cadwraeth bywyd gwyllt cenedlaethol. Gall y Cyngor ddarparu gwybodaeth a chyngor ar faterion yn ymwneud â chefn gwlad i gynorthwyo busnesau twristiaeth.

Cynllun Croeso Bydd

y cynllun Croeso yn cynnwys 3 rhan, sef Croeso Cymru – A Sense of Place; Croeso Cynnes – A Warm Welcome; Croeso Cymraeg – Our language, our heritage

Dylunio Cymru

Gall y gyfundrefn ddarparu cyngor cynhwysfawr a gwasanaethau cymorth ar bob agwedd o ddyluniad, gan gynnwys cyfathrebu marchnata, dyluniad nwydd, brandio a dewis ymgynghorwyr dyluniad.

Anabledd Cymru

Cwrt Wernddu, Parc Busnes Caerffili, Heol Van, Caerffili CF83 3ED Tel: 029 2088 7325 www.dwac.demon.co.uk

Mae'r gyfundrefn hon yn cydweithio gyda chyfundrefnau anabledd eraill yng Nghymru i gynorthwyo pobl gydag anabledd a lleihau rhwystrau i gyfranogiad. Gall ddarparu gwybodaeth a chyngor ar hygyrchedd i fusnesau twristiaeth.

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Rivers House, Parc Busnes St Mellons, St Mellons, Caerdydd CF3 0EY Tel: 029 2077 0088 www.environment-agency.gov.uk

Mae'r asiantaeth yn gyfrifol am reoleiddio awyr, tir a dwˆr a gwarchod a gwella'r amgylchedd trwy gyfrwng ataliad, addysg, cydweithio gydag eraill a, phan fo angen, gorfodaeth. Mae'n ceisio sicrhau fod cymunedau gwledig yn datblygu mewn modd cynaladwy, ac yn cael ei noddi gan yr Adran ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a LlCC. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu gwybodaeth ar faterion amgylcheddol, yn rheoli meysydd fel cyhoeddi trwyddedau pysgota, yn archwilio a monitro dalwyr trwydded, ac yn erlyn unigolion sy'n cyflawni troseddau amgylcheddol.

Cyswllt Ffermio

Lanfa, Trefechan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1AS Tel: 08456 000813 www.wales.gov.uk/farmingconnect

Mae Cyswllt Ffermio yn brif ddarparwr gwasanaethau i'r gymuned amaethyddol yng Nghymru. Mae'n darparu cyfleodd, gwybodaeth ac arbenigedd i fusnesau ffermio i'w galluogi i gymryd penderfyniadau goleuedig ynglyˆn â dyfodol eu busnesau. Mae tîm o arbenigwyr ar gael i gynorthwyo ffermwyr i wella, datblygu ac amrywiaethu eu busnesau, paratoi cynlluniau datblygu busnes fferm ac archwilio eu hanghenion hyfforddiant. Mae gwahanol fathau o gyfalaf a grantiau eraill ar gael trwy Cyswllt Ffermio, gan gynnwys rhai sy'n gysylltiedig â datblygiadau twristiaeth ffermio.

Cymdeithas Rheolwyr Gwesty,

Arlwyo a Rhyngwladol (HCIMA) Trinity Court, 34 West Street, Sutton, Surrey SM1 1SH Tel: 020 8661 4900 www.hcima.org.uk

Mae HCIMA yn gorff proffesiynol cydnabyddedig ar gyfer rheolwyr a rheolwyr potensial yn y diwydiant lletygarwch. Gall aelodau elwa o ystod o wasanaethau a chyfleoedd rhwydweithio.

Learndirect

Gall learndirect ddarparu gwybodaeth ar yr holl gynlluniau hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig cyfres o gyrsiau ar-lein arloesol.

Awdurdodau Lleol

Mae llawer o weithgareddau'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cyfrannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at ffyniant y diwydiant twristiaeth a lles ymwelwyr. Mae eu gwaith yn cynnwys:

  • cynllunio defnydd tir;
  • denu buddsoddiad sector preifat newydd;
  • cael gafael a rhoi cyngor ar ddyraniad grantiau penodol a allai fod o fudd i dwristiaeth;
  • datblygu, ariannu a rheoli atyniadau ymwelwyr;
  • darparu cyfleusterau hamdden ac amwynderau hamdden eraill;
  • darparu a chynnal gwasanaethau isadeiledd allweddol a ddefnyddir gan ymwelwyr, fel meysydd parcio car a choets;
  • swyddogaethau rheolaeth yn ymwneud â busnesau twristiaeth, fel rhai yn ymwneud â rheolau adeilad a glanweithdra bwyd;
  • marchnata eu hardaloedd;
  • ariannu a gweinyddu rhai Canolfannau Gwybodaeth Twristiaeth.

Twristiaeth Canolbarth Cymru

Yr Orsaf, Machynlleth, Powys SY20 8TG Tel: 01654 702653 www.mid-wales-tourism.org.uk

Mae Twristiaeth Canolbarth Cymru yn gyfundrefn aelod sy'n ceisio hybu twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor i aelodau, ynghyd ag ystod o gyfleoedd marchnata a rhwydweithio. Parciau Cenedlaethol Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol am gadw a gwella harddwch naturiol y parciau a'r amwynderau sydd ynddynt, a hyrwyddo eu defnydd gan y cyhoedd. Mae tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru, sef Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri. Mae gwasanaethau warden a chanolfannau gwybodaeth ar gael yn y parciau i gynorthwyo ymwelwyr.

Twristiaeth Gogledd Cymru

77 Ffordd Conwy, Bae Colwyn, Clwyd Tel: 01492 531731 www.nwt.co.uk

Mae'r cwmni twristiaeth rhanbarthol hwn yn hyrwyddo twristiaeth yng Ngogledd Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth, cyngor ac ystod o wasanaethau marchnata i aelodau diwydiant ymwelwyr, gan gynnwys hysbysebu eu hunain mewn cyhoeddiadau a gyhoeddir gan Twristiaeth Gogledd Cymru a'u cynnwys ar y wefan y cwmni.

Partneriaethau Rhanbarthol Twristiaeth

Sefydlwyd pedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol yn 2002 ar gyfer Gogledd, Canolbarth, De Orllewin a De Ddwyrain Cymru. Dyma'r pedair:

  • Uwch Ranbarth Twristiaeth
  • Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru
  • Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru
  • Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru

Eu prif swyddogaeth yw arwain gweithrediad y pedair strategaeth twristiaeth ranbarthol a luniwyd ar gyfer gwella perfformiad cystadleuol twristiaeth. Mae'r PTRh yn cydweithio gyda CC, awdurdodau lleol, busnesau twristiaeth a chyfundrefnau eraill i gyflawni ystod o weithgareddau marchnata, buddsoddiad nwydd a gweithgareddau cefnogaeth busnes ar ran y diwydiant twristiaeth. Maent yn gweinyddu'r cyllidebau datganoledig a roddir gan CC.

Cyngor Chwaraeon Cymru

Gerddi Soffia, Caerdydd CF11 9SW Tel: 029 2030 0500 www.sports-council-wales.co.uk

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol yng Nghymru. Mae'n cydweithio'n agos gyda chyfundrefnau eraill i greu cyfleoedd chwaraeon, datblygu potensial unigolion a sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer Cymru fel gwlad gyda diwylliant chwaraeon.

Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru

Baltic House, Sgwar Mount Stewart, Caerdydd CF10 5FH Tel: 029 2043 7000 www.princes-trust.org.uk

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo pobl ifanc i wireddu eu potensial. Mae'n cynnig cymorth ac anogaeth, ynghyd â darparu grantiau i bobI ifanc i wireddu eu cynlluniau, e.e. cyflawni cynllun hyfforddiant neu gychwyn eu busnes eu hunain.

Fforwm Hyfforddiant Twristiaeth i Gymru

Uned 16, Adeiladau Frazer, 126 Stryd Bute, Caerdydd CF10 5AE Tel: 029 2049 5174 www.ttfw.org.uk

Mae HTiG yn gorff annibynnol sy'n darparu arweiniad, cyfarwyddyd a chyd-drefniant ar gyfer hyfforddiant ac addysg twristiaeth yng Nghymru. Mae'n annog sefydliadau addysg a darparwyr hyfforddiant eraill i gynnig hyfforddiant perthnasol, hygyrch a safon uchel. Mae HTiG yn cynorthwyo busnesau twristiaeth i gymryd mantais o gyfleoedd hyfforddiant yn eu hardal, ynghyd â hyrwyddo partneriaethau effeithiol.

Canolfannau Gwybodaeth Twristiaeth

Mae dros 80 Canolfan Gwybodaeth Twristiaeth (CGT) yng Nghymru sy'n cwrdd â'r meini prawf cytûn ar gyfer CGT. Mae'r CGT hyn yn cael eu gweinyddu gan nifer o wahanol gyfundrefnau, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol, Cwmnïau Twristiaeth Rhanbarthol, Cyfundrefnau Twristiaeth a Gweithredwyr Annibynnol. Mae'r CGT yn gweithredu fel canolbwynt i fusnesau twristiaeth mewn ardal arbennig, ac yn eu cynorthwyo. Gall CGT hefyd gynorthwyo busnesau twristiaeth i hyrwyddo eu hunain i ymwelwyr potensial, ymwelwyr sydd eisoes yn yr ardal a phreswylwyr lleol. Maent yn darparu gwybodaeth rhad ac am ddim a diduedd ar fusnesau twristiaeth lleol i ymwelwyr y CGT, ynghyd ag ateb ymholiadau ysgrifenedig, ffôn ac e-bost er mwyn hyrwyddo cyfleusterau twristiaeth a gwasanaethau yr ardal.

Cyfundrefnau Masnach

Mae cyfundrefnau masnach yng Nghymru'n darparu ystod eang o fuddion i'w haelodau, gan gynnwys darparu gwybodaeth a chyngor, lobio llywodraeth, disgowntiau ar brynu nwyddau a gwasanaethau a chyfleoedd rhwydweithio. Fel arfer mae tâl aelodaeth blynyddol yn cael ei godi. Gall rhai gwasanaethau hefyd olygu taliadau ychwanegol.

Croeso Cymru

Tyˆ Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd CF24 IUY Tel: 029 2047 5303 www.visitwales.com

Mae CC yn rhan o Adran Treftadaeth LlCC. Mae LlCC yn gyfrifol am hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth, cyflawni gwaith ymchwil a gwella safon cyfleusterau ymwelwyr yng Nghymru. Mae CC yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i hyrwyddo ardaloedd marchnata. Gall CC ddarparu ystod eang o gyngor busnes a thynnu sylw at wasanaethau a grantiau eraill. Gall CC ddarparu gwybodaeth ar farchnata, hyfforddiant, gwybodaeth technoleg ac e-fasnach, perfformiad amgylcheddol, hygyrchedd, a grantiau datblygiad a chyfalaf. Mae CC hefyd yn cynnig ystod eang o gyhoeddiadau cynghorol ar gyfer busnesau newydd a rhai sy'n tyfu. Mae CC wedi arwain datblygiad Croeso Cymru, sef cronfa ddata ar-lein sy'n rhoi'r cyfle i fusnesau yng Nghymru farchnata a gwerthu eu hunain i gynulleidfa fyd eang.

Visit Britain

Thames Tower, Black’s Road, Llundain W6 9EL Tel: 020 8846 9000 www.visitbritain.com

Ffurfiwyd Visit Britain yn 2003 i ddisodli'r Awdurdod Twristiaeth Prydeinig a Chyngor Twristiaeth Lloegr. Mae gan y gyfundrefn ddwy swyddogaeth ar y cyd: ym Mhrydain mae'n gyfrifol am hyrwyddo Lloegr i weddill y DU, ac yn rhyngwladol mae'n gyfrifol am hyrwyddo Prydain fel cyrchfan dwristiaeth, gan gynhyrchu incwm ychwanegol trwy Brydain gyfan a thrwy gydol y flwyddyn. Mae'n gweithredu rhwydwaith o swyddfeydd tramor, ac yn cydweithio gyda CC a Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC). Gall busnesau yng Nghymru gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau marchnata a'u cynnwys ar visitbritain.com.

Cymdeithas Gweithredwyr

Hunan-Ddarpar Cymru (WASCO) Brynteg, Cae Groes, Bala, Gwynedd LL23 7AQ Tel: 08701 283152 www.wasco.org.uk

Mae WASCO yn gymdeithas annibynnol a phroffesiynol a ffurfiwyd ar gyfer amddiffyn, cefnogi, hyrwyddo a chynrychioli'r aelodau. Mae buddion aelodaeth yn cynnwys disgowntiau ar hysbysebu ac yswiriant, a chyfle i weithredwyr hunanarlwyo sicrhau presenoldeb ar y Rhyngrwyd.

Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (WAVA)

Tel: 01248 440541 www.wava.org.uk

Mae WAVA yn cefnogi a chynrychioli gweithredwyr atyniadau ymwelwyr ar hyd a lled Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio i gyfundrefnau aelod.

Cyngor Crefft Cymru

Stad Ddiwydiannol Henfaes Lane, Y Trallwng, Powys SY21 7BE Tel: 01938 555313 www.walescraftcouncil.co.uk

Mae'r Cyngor yn hyrwyddo diddordebau cynhyrchwyr crefftau, anrhegion a nwyddau brethyn yng Nghymru. Gall gynorthwyo, cynghori, cynrychioli a hyrwyddo crefftwyr a chyfundrefnau. Mae ei gynllun aelodaeth yn cynnig disgowntiau digwyddiad a chyhoeddiad, ynghyd ag ystod o wasanaethau ar gyfer hybu busnes.

Cynghrair Twristiaeth Cymru (CTC)

Llawr 1af, Dominions House North, Stryd y Frenhines, Caerdydd CF10 2AR Tel: 029 2038 4440 www.wta.org.uk

Mae CTC yn gynghrair o gyfundrefnau masnach twristiaeth Cymru, ac yn ceisio cysylltu gwahanol sectorau'r diwydiant twristiaeth. Mae'n ymgyrchu ar faterion o bwys i'r diwydiant.

Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC)

Bae Caerdydd, Caerdydd CF9 1NA Tel: 029 2082 5111 www.wales.gov.uk

Mae LlCC yn datblygu a gweithredu polisi trwy gyfrwng y gwasanaeth sifil a chyrff a noddwyd. Mae'n gyfrifol am dwristiaeth yng Nghymru gyfan. Mae CC yn adrodd ac yn atebol i'r Gweinidog Treftadaeth. Mae'n gyfrifol am benodi unigolion i'r Panel Ymgynghorol Twristiaeth. Mae LlCC hefyd yn gyfrifol am gydlynu gweithrediad polisi economaidd yng Nghymru, gyda thwristiaeth yn rhan ohono.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AT Tel: 02920 878000 Llinell Gyswllt â'r Gymraeg: 0845 6076070 www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Mae'r Bwrdd yn ceisio hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg, gan gynnig cyngor ac adnoddau. Mae'r Llinell Gyswllt â'r Gymraeg yn cynnig gwasanaeth cyfieithu bwydlen am ddim ar gyfer unrhyw sefydliad sydd am hyrwyddo ei hun yn ddwyieithog. Mae'r Bwrdd hefyd yn gweithredu cynllun grantiau.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tyˆ Llywodraeth Leol, Rhodfa Drake, Caerdydd CF10 4LG Tel: 029 2046 8600 www.wlga.gov.uk

Mae CLlLC yn cynrychioli diddordebau awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn ceisio hyrwyddo democratiaeth leol. Mae'r Awdurdodau Tân, Awdurdodau Heddlu a'r Awdurdodau Parc Cenedlaethol yn aelodau cysylltiol. Mae aelodaeth yn CLlLC yn wirfoddol i awdurdodau lleol.

photo / llun: Llangollen