Pobl Fedrus

Un o Amcanion Strategol Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru 2010 – 15 yw darparu Profiad Rhagorol.

Mae angen inni drosglwyddo profiad safonol cyflawn, o ddyfodiad hyd at ymadawiad, gan wneud treulio amser yng Ngogledd Cymru yn brofiad pleserus. Argraffiadau cyntaf positif, hawdd symud o gwmpas a chael y gorau o'r ymweliad, croeso cynnes a gwasanaeth da ym mhobman, mannau hardd a thaclus, digon i'w archwilio, a'r synnwyr o fod mewn rhywle gwahanol.

I'r perwyl hwn, mae Blaenoriaeth Allweddol yn sicrhau Pobl Fedrus.

Yn benodol mae'r Partneriaethau yn ceisio:

  • Datblygu busnesau proffidiol sy'n cael eu rhedeg gan reolwyr mentrus gyda gweithlu medrus ac awyddus.

Er mwyn gwireddu'r Amcan hon, mae gweithgaredd y Bartneriaeth yn cynnwys cyd-drefniant Fforwm Datblygiad Pobl i weithredu fel seinfwrdd ar y cyflenwad llafur economi ymwelwyr, materion datblygu sgiliau a defnydd hyfforddiant yn y rhanbarth.

Yn ychwanegol mae'r Fforwm hwn yn ceisio dylanwadu ar ddarparwyr hyfforddiant, asiantaethau cefnogaeth busnes a cholegau i ddeall ac ymateb i anghenion arbennig y sector dwristiaeth yn y rhanbarth. Mae'r Fforwm hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid i wella delwedd twristiaeth fel cyflogwr.

Er mwyn hyrwyddo diwylliant dysgu yn economi twristiaeth ac economi ymwelwyr ehangach Gogledd Cymru mae'r Bartneriaeth yn gallu:

  • Arwyddbostio'r hyn sy'n cael ei gynnig o ran hyfforddiant a chefnogaeth busnes
  • Darparu cyngor
  • Rhannu ymarfer da a hysbysebu storiâu llwyddiant
  • Trefnu cyrsiau cyflym a byr lle bo bylchau.

Adnoddau a gwybodaeth a all fod o ddefnydd:

www.llandrillo.co.uk
Dyfodol – Skills in Employment – Llandrillo Course Listings & Criteria
www.deeside.ac.uk / www.people1st.co.uk
Acquire Training Mandatory and Vocational Qualifications
www.worldhost.uk.com
WorldHost Customer Service Training Calendar
www.northwalestourism.co.uk
Skilled People future courses
www.dmwales.com
Porthol ar gyfer pawb sydd ynghlwm â datblygiad cyrchfannau twristiaeth a throsglwyddiad y profiad ymwelwyr yn y cyrchfannau hynny (ewch at y rhan 'Blwch Offer' sy'n cynnwys ystod o wybodaeth yn ymwneud â datblygiad sgiliau ar hyd a lled Cymru gan gynnwys colegau, prifysgolion a Chynghorau Sgiliau Sector)
www.whodoiask.com
Adnodd gwybodaeth ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Dylinwyd y porthol ar gyfer darparwyr twristiaeth, ac mae'n cynnwys ystod eang o wybodaeth ar gyfer rhai sy'n cychwyn busnes, sy'n awyddus i wybod mwy am ddarparu gwasanaethau i'w cwsmeriaid, sut i ddenu busnes newydd, a'r holl anghenion ariannol, cyfreithiol ayyb sydd ynghlwm â rhedeg busnes.

Os oes angen mwy o wybodaeth gennych yn y rhanbarth cysylltwch â Llinos Cunnah ar 01745 589027 neu, fel dewis arall, â:

Lee Elwell – Cydlynydd Cenedlaethol Sgiliau Twristiaeth

Mae Lee yn cael ei gyflogi ar y cyd gan y 4 Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol (PTRh) ag adran dwristiaeth Llywodraeth Cymru (LlC) i gyfarwyddo, rheoli a dylanwadu datblygiad sgiliau/cymorth busnes ar gyfer y sector twristiaeth.

Mae wedi ei leoli yn swyddfeydd Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru (PTDOC) ond yn gweithio ar sail Cymru gyfan ym mhob rhanbarth PTRh.

E-bost: lee.elwell@swwtp.co.uk
Ffôn: 07812 587051
Enw Skype: lee.elwell1

Cynllun Llysgennad Lletygarwch

Helpwch godi proffil gyrfa yn niwydiant twristiaeth a lletygarwch Gogledd Cymru

Mae'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn un o ddiwydiannau mwyaf llwyddiannus a phroffidiol y DU ac yn arbennig felly yng Ngogledd Cymru. Mae'n cyflogi dros 30,000 ar hyd a lled Gogledd Cymru, gan gynnig llawer o gyfleoedd a llwybrau gyrfaol cyffrous.

Y weledigaeth yn Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru 2010-2015 yw sicrhau bod Gogledd Cymru yn dod yn un o 5 pum prif gyrchfan twristiaeth y DU.

Er mwyn gwireddu'r nod hon mae angen i bobl ifanc ddewis y diwydiant fel dewis gyrfa.

Y Cynllun

Mewn partneriaeth gyda Gyrfa Cymru, mae Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yn bwriadu recriwtio a hyfforddi nifer o Lysgenhadon Lletygarwch lleol sydd yn angerddol dros eu gwaith ac sy'n barod i ymweld ag ysgolion lleol i siarad gyda disgyblion am eu gyrfaoedd a'r cyfleoedd sydd ar gael.

Os hoffech wybod mwy neu archebu sesiwn, llwytho i lawr un o'r ffurflenni hyn:

llun: Rhaeadr Gerddi Bodnant