Uwch Ddadansoddwr Buddsoddiad
Phil Griffiths
Ymunodd Phil â Bwrdd Croeso Cymru (bellach Adran Menter, Newyddbethau a Rhwydweithiau LLCC) ym Medi 2002, ac mae bellach wedi bod yn gweinyddu'r cynllun cymorth buddsoddiad yng Ngogledd Cymru ers dros ddwy flynedd. Mae'r swydd yn golygu cydweithio gyda'r ymgynghorydd busnes yn yr ardal i geisio blaenu prosiectau twristiaeth sy'n cyd-fynd â strategaethau a blaenoriaethau LLCC, yn arbennig y rhai sy'n cefnogi Cynlluniau Gweithredu Cynnyrch LLCC.
Mae'r prosiectau yn amrywiol eu natur, a gallant gynnwys uwchraddio gwasanaethau lletyaeth, tai bwyta, atyniadau a datblygu llwybrau beicio newydd, a.y.b. Mae'r prosiectau yn cael eu hasesu o ran blaenoriaeth / cydweddoldeb â strategaeth, hyfywedd, galw ac ychwanegolrwydd.

