Ysgrifennydd Partneriaeth
Siân Williams
Ymunodd Siân Williams â PTGC ym mis Gorffennaf 2004. Bu'n gweithio cyn hynny am 3 mlynedd i Donfedd Eryri yn y Felinheli.
Mae gan Siân brofiad yn y byd cyfryngau, a'i phrif gryfderau yw trefnu a chynllunio. Mae ganddi radd BA (Anrhydedd) mewn Cynhyrchiad Cyfryngau a Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) mewn Iechyd a Diogelwch a Chynhyrchu. Mae ganddi wybodaeth helaeth o gyfrifiaduron a chyfathrebu.
Ei phrif gyfrifoldebau a'i dyletswyddau yw darparu cymorth ysgrifenyddol i'r Cyfarwyddwr Strategaeth Rhanbarthol a'r Bwrdd, Fforymau a Chyfarfodydd Cyffredinol PTGC, ac i ddatblygu proffil corfforaethol PTGC.

