yr hyn rydym ni'n ei wneud

Mae Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yn un o bedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol yng Nghymru, gyda phartneriaid yn hanu o'r sector breifat a chyhoeddus. Mae Adran yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy gyfrwng Croeso Cymru yn rhoi adnoddau i'r Bartneriaeth Twristiaeth i'w galluogi i gyflawni ei phrif amcan, sef galluogi trosglwyddiad y Cynlluniau Gweithredu a Rhanbarthol sydd wedi eu cynnwys yn ei Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru - "Cynllunio twristiaeth yfory heddiw", ar gyfer y cyfnod 2004-09.

Bydd y Bartneriaeth Twristiaeth felly'n gwneud cyfraniad rhanbarthol i drosglwyddiad cynllun cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chroeso Cymru, sy'n deillio o'r strategaeth dwristiaeth genedlaethol, a “Cyrraedd Ein Potensial 2006-2013”.

Bwriad y Bartneriaeth Twristiaeth yw "Gwella economi twristiaeth Gogledd Cymru trwy bartneriaeth chynllunio twristiaeth yfory heddiw”.

Mae'r Bartneriaeth Twristiaeth yn ymrwymedig i wella safon y dwristiaeth a gynigir ac yn targedu Datblygiad Cynnyrch, Datblygiad Hyrwyddiad a Datblygiad Pobl, a bydd buddion yn dilyn o hyn i'r diwydiant twristiaeth, y gymuned ac, yn fwyaf pwysig, i'r cwsmer sef ein hymwelwyr.

Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Bartneriaeth Twristiaeth yn cynnwys 7 cyfarwyddwr awdurdod lleol, gan gynnwys Awdurdod Cenedlaethol Parc Eryri, a 7 cyfarwyddwr masnach, i gyd wedi eu hethol i gwrdd ag anghenion diwydiant ym mhob rhan o'r rhanbarth. Bydd pedwar o'r cyfarwyddwyr masnach yn Gyfarwyddwyr Ardal Farchnata, a byddant â chylch gwaith ychwanegol ar gyfer eu Hardaloedd Marchnata. Dyma'r Ardaloedd Marchnata: Ynys Môn, Eryri - Môr a Mynydd, Trefi Glan Môr Gogledd Cymru, a Gororau Gogledd Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn cydnabod amrywiaeth y nwyddau a'r gwahanol rannau o'r farchnad mae pob ardal farchnata a'u is-ardaloedd yn anelu atynt er mwyn denu ymwelwyr.

Bwriedir cael Partneriaeth Ardal Farchnata yn gweithredu o fewn pob Ardal Marchnata ac yn gweithredu ar sail Cynllun Gweithredu Ardal Farchnata, gyda Chynllun Busnes Ardal Farchnata yn cael ei throsglwyddo gan yr asiantaethau twristiaeth yn yr ardal honno.

Fe fydd hi'n hanfodol i'r Bartneriaeth Twristiaeth fod â llinellau cyfathrebu penigamp gyda'r diwydiant - nid yn unig ar gyfer adborth dwyffordd ond hefyd er mwyn sicrhau perchnogaeth. Bydd y Bartneriaeth Twristiaeth yn gweithio'n agos gyda chyfundrefnau twristiaeth, consortia a grwpiau marchnata eraill ym mhob ardal a sector yn y rhanbarth - gan gynnwys awdurdodau lleol a chymunedau, er mwyn sicrhau eu blaenoriaethau marchnata - trwy gyfrwng y Partneriaethau Ardal Marchnata

Mae'r gyllideb a neilltuwyd gan LLCC ar gyfer trosglwyddo'r Cynlluniau Gweithredu rhwng £1M a £1.5M y flwyddyn, gyda rhan ohoni'n cael ei throsglwyddo i'r Partneriaethau Ardal Farchnata tuag at brosiectau peilot Hyrwyddo. Bydd adnoddau'r Bartneriaeth Twristiaeth yn cael eu defnyddio ar gyfer dylanwadu Datblygiad Cynnyrch, Datblygiad Hyrwyddiad a Datblygiad Pobl.

Mae’r blaenoriaethau ar gyfer Datblygiad Cynnyrch yn cynnwys gwella isadeiledd ac aradeiledd (Fframwaith Buddsoddiad Rhanbarthol) a strwythur meddal trwy gyfrwng datblygiad pecynnau twristiaeth.

Bydd y Bartneriaeth Twristiaeth yn ceisio sicrhau trosglwyddiad Cynlluniau Gweithredu'r pum Ardal Twf Twristiaeth yn y rhanbarth - Strategol yn Llandudno / Deganwy / Conwy; Rhanbarthol yng Nghaernarfon; Rhanbarthol yn Wrecsam; Rhanbarthol yn Llangollen / Dyffryn y Ddyfrdwy a Gwledig ym Metws-y-coed.

Bydd y gyllideb Datblygiad Hyrwyddo yn cael ei gwario ar alluogi gwella ac integreiddiad gweithgareddau newydd a pharod, a bydd y blaenoriaethau yn cynnwys:

Ym marchnad Gwyliau Hir y DU, cyd-drefniant gweithgaredd, ar thema Croeso i Blant, i sicrhau trosiad uwch ymysg y rhai dan 45 oed, teuluoedd iau a theuluoedd cyfoethocach hŷn ynghyd â theuluoedd incwm canol ag isel.

Ym marchnad Gwyliau Byr y DU, gwella ymgyrchoedd ar thema gwyliau diwylliannol, treftadaeth a gwledig, wedi eu hanelu at bobl dros 45 oed - cyplau cyfoethog wedi ymddeol yn gynnar, cyplau cyfoethog yn dal i weithio gyda'u plant wedi gadael cartref, a chyplau/grwpiau hŷn llai cyfoethog.

Yn ychwanegol o fewn y farchnad Gwyliau Byr Prydeinig, datblygu ymgyrchoedd ar y thema Gweithgareddau, wedi eu targedu at weithwyr proffesiynol ifanc / grwpiau, ar sail grŵp cynnyrch, h.y. golff, antur, cerdded, a chwaraeon dŵr.

Cefnogi ehangiad marchnata twristiaeth Busnes a Chynhadledd parod, gan ddefnyddio arian yr awdurdod lleol ac arian masnach.

Gweithredu menter i adnewyddu'r gronfa ddata trefnwyr teithiau Coets a Grwp, gan gynnwys nodi grwpiau cilfach ac annibynwyr ymddangosol a allai gael eu denu gan y syniad o grwpiau gwyliau anffurfiol. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi hefyd i gefnogi ymgyrchoedd sail Ardal Farchnata/Ranbarthol yn y farchnad hon, a stondinau effaith uwch mewn sioeau masnach teithio.

O fewn y Farchnad Ymwelwyr Dydd fe fydd asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus yn cael ei phenodi i raddol hyrwyddo gweithgareddau yn y farchnad diriogaethol, er mwyn cyflenwi ymgyrchoedd cenedlaethol. Yn ychwanegol bwriedir gweithio gyda chonsortia atyniadau ac atyniadau mawr eraill mewn perthynas â chyfranogiad uwch yn ffeiriau masnach teithio Gogledd Orllewin a Gorllewin Canolbarth Lloegr, mewn siopau, archfarchnadoedd a chanolfannau siopa.

Bydd Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yn ceisio sicrhau sefydliad cell ddosbarthu yn y Gogledd Orllewin a Gorllewin Canolbarth Lloegr er mwyn sicrhau trosglwyddiad negeseuon i gwsmeriaid ar ymweliadau dydd i atyniadau yn bennaf.

Datblygwyd Cynllun Cefnogi Digwyddiadau Rhanbarthol, sy'n cynnig cymorth ariannol i gynlluniau rhanbarthol sy'n ymestyn y tymor ac yn cynhyrchu galw sylweddol am lety.

Mae'r Bartneriaeth wedi adolygu gwerth y Canolfannau a'r Pwyntiau Croeso ar hyd a lled y rhanbarth, ac mae'n ariannu 6 Canolfan Groeso graidd. Mae hefyd yn blaenoriaethu datblygiad un ganolfan alw ganolog ar gyfer y rhanbarth.

O ran Datblygu Pobl, bydd y Bartneriaeth yn cefnogi, gydag asiantaethau allweddol eraill, datblygiad y sgiliau newydd sydd eu hangen i facsimeiddio'r cynnydd o gynlluniau marchnata newydd. Gall y rhain gynnwys meincnodi, datblygu perthynas cwsmer sail electroneg, a rhwydweithio gwybodaeth dechnoleg.

Am fanylion cysylltwch â Dewi Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol, trwy ffonio 01745 589020 neu 07831 597408, ffacsio 01745 589028, neu e-bostio: dewi.davies@tpnw.org neu ysgrifennu at 25 Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0LJ.

Rhwydwaith o gyfundrefnau twristiaeth

I gofnodi eich gwasanaethau gyda ni, llawrlwythwch ein Ffurflen gofrestru tender detholus

.
llun: Rhaeadr Gerddi Bodnant